Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
20 Medi 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12974
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
Gwnaeth y Llywydd, ar ran y Senedd, ddatganiad yn estyn cydymdeimladau â theulu a chyfeillion y cyn-Aelod Mick Bates.
Datganiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) wedi cael Cydsyniad Brenhinol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.24
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Gostau Byw
Dechreuodd yr eitem am 14.44
4 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - Gohiriwyd o 13 Medi
Dechreuodd yr eitem am 15.37
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr - Gohiriwyd o 13 Medi
Dechreuodd yr eitem am 16.16
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid a Phwysau'r Gaeaf
Dechreuodd yr eitem am 17.02
7 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim
Dechreuodd yr eitem am 17.30
Daeth y cyfarfod i ben am 18.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 21 Medi 2022